Ymateb ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg â’r teitl Ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Ordewdra ymysg Plant Mawrth 2014.

 

9 Mai 2014.

 

 

Mae Llywodraeth Cymru’n croesawu’r adroddiad a luniwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dilyn ei ymchwiliad i Ordewdra ymysg Plant yng Nghymru. Mae canfyddiadau’r Pwyllgor, ynghyd â’i set o argymhellion a chasgliadau, yn cyd-fynd yn gyffredinol ag agwedd Llywodraeth Cymru a byddant yn ddefnyddiol i roi ffocws a chyfeiriad pellach wrth fynd i’r afael â’r maes heriol hwn yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud rhai camau sylweddol ers cynnal yr ymchwiliad, a cheir manylion yn yr ymatebion i’r argymhellion isod.

 

 

Ceir ymatebion manwl i argymhellion yr adroddiad isod:

 

Argymhelliad Un

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad o hynt byrddau iechyd lleol wrth fodloni gofynion gwasanaeth gofynnol ar bob lefel o Lwybr Gordewdra Cymru Gyfan. Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canlyniadau'r adolygiad hwnnw mewn modd amserol, gan gynnwys cynllun gweithredu ac iddo amserlen er mwyn ymdrin ag unrhyw fylchau a nodir.

 

Ymateb: Derbyn

 

  • Eleni rydym ni wedi newid y broses asesu ac wedi ymgymryd ag asesiad mwy ffurfiol o’r llwybr. Ym mis Ionawr 2014, ysgrifennodd swyddogion at y saith Bwrdd Iechyd gyda chais am dystiolaeth yn erbyn y gofynion gwasanaeth gofynnol ar gyfer pob lefel o’r llwybr.

 

  • Dadansoddwyd y dystiolaeth hon gyda threfn raddio coch / ambr / gwyrdd ac rydym wedi ysgrifennu at bob Bwrdd Iechyd i sicrhau eu bod yn fodlon gyda’r asesiad sydd wedi’i wneud, yn cynnwys mesuriadau ychwanegol yn eu hymateb, ac yn darparu manylion am y camau y byddant yn eu cymryd mewn meysydd yr aseswyd fod angen rhagor o ddatblygiad arnynt. Mae’r Byrddau Iechyd wedi ymateb bellach a byddwn yn cyhoeddi’r canlyniadau ddiwedd mis Mai 2014

 

 

(Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol).

Goblygiad Ariannol

 

Dim.  Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol uniongyrchol yn gysylltiedig â chyhoeddi’r adolygiad.

 

Argymhelliad Dau

 

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gwasanaethau lefel 3 ar gyfer plant yn cael eu cyflwyno ledled Cymru. Dylai'r Gweinidog adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar gynnydd mewn modd amserol.

 

Ymateb: Derbyn

 

  • Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn gweithio gyda rhanddeiliaid dietetig allweddol, wedi datblygu Manyleb Gwasanaeth a Pholisi Mynediad Clinigol Cenedlaethol Lefel Tri drafft ar gyfer Gordewdra i oedolion. Mae’r dogfennau hyn wedi’u datblygu’n gydweithredol ar sail consensws, a chânt eu cyhoeddi erbyn diwedd mis Mehefin 2014.

 

  • Gan adeiladu ar y gwaith hwn, byddwn yn gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddatblygu Manyleb Gwasanaeth a Pholisi Mynediad Clinigol Cenedlaethol Lefel Tri drafft ar gyfer Gordewdra i blant.

 

 

(Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol).

Goblygiad Ariannol

 

Dim.

 

Argymhelliad Tri

 

Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu a chyhoeddi fframwaith gwerthuso ar gyfer ei strategaethau sy'n ymwneud â gordewdra ymysg plant er mwyn sicrhau bod modd monitro perfformiad strategaethau yn erbyn canlyniadau mewn ffordd ddibynadwy.

 

Ymateb: Derbyn

 

  • Rydym ni wedi gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddatblygu fframwaith o’r fath, gan gynnwys set data isafswm craidd, fel rhan o’u cynllun gwaith yn  2014/15.

 

(Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol).

Goblygiad Ariannol

 

Dim.

 

Argymhelliad Pedwar

 

Dylai Llywodraeth Cymru barhau gyda'r Rhaglen Mesur Plant, a'i hymestyn, gan nodi'n glir sut y defnyddir y data i fonitro a gwerthuso rhaglenni gordewdra ymysg plant a phlant dros bwysau.

Ymateb: Derbyn yn rhannol

 

  • Cyhoeddwyd adroddiad cyntaf y Rhaglen Mesur Plant, yn seiliedig ar ddata a gasglwyd gan blant derbyn yn ystod blwyddyn Ysgol 2011/12, gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 4 Gorffennaf 2013

 

  • Mae’r ail adroddiad, sy’n defnyddio data a gasglwyd yn ystod blwyddyn Ysgol 2012/13 yn cael ei baratoi a disgwylir y canlyniadau  yn yr haf. Mae trydedd flwyddyn o fesuriadau’n cael eu gwneud ar hyn o bryd. Caiff y data ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i fonitro newidiadau mewn lefelau gordewdra ymysg plant blwyddyn derbyn, er mwyn gwneud penderfyniadau am waith yn y dyfodol.

 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhedeg rhaglen beilot ar gyfer mesur plant Blwyddyn 4 mewn un Bwrdd Iechyd. Bydd angen ystyried costau a buddiannau ymarferol estyniad mwy cyffredinol i flwyddyn pedwar cyn penderfynu ei roi ar waith.

 

 (Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol).

Goblygiad Ariannol

 

Dim. Gall y rhaglen fesur y flwyddyn derbyn barhau heb unrhyw gost ychwanegol. Fodd bynnag byddai goblygiadau ariannol i unrhyw benderfyniad i estyn y rhaglen i Flwyddyn 4.

Argymhelliad Pump

 

Dylai Llywodraeth Cymru fynd ati mewn modd amserol i gyhoeddi adroddiad ar y camau a gymerir gan Is-Bwyllgor Cabinet newydd Llywodraeth Cymru sy'n edrych ar annog plant a phobl ifanc i wneud mwy o weithgarwch corfforol, gan gyfeirio'n benodol at effaith cyfyngiadau cyllidebol ar y cyfleusterau hamdden a ddarperir gan awdurdodau lleol a’r camau a gymerir er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws adrannau i gynyddu lefelau cyfranogi.

 

Ymateb: Derbyn

 

  • Mae’r Grŵp Gweithredol Gweithgarwch Corfforol yn gweithio ar ddatblygu opsiynau i gymell y bobl leiaf gweithredol yn gorfforol i wneud mwy o ymarfer corff, gan ystyried sut y gellid annog a monitro gweithgarwch corfforol gydol oes.

 

  • Mae’r Gweinidogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Diwylliant a Chwaraeon wedi cytuno ar gynnig ar gyfer strwythur a gweithrediad y Grŵp Gweithredol yn y dyfodol. Bydd hyn yn golygu datblygu Grŵp Rhanddeiliaid Gweithredol i sicrhau bod cynnydd cydlynol yn cael ei wneud yn erbyn cyfeiriad y Grŵp Gweithredol.

 

 

  • Bydd y Grŵp Gweithredol Gweithgarwch Corfforol yn cyhoeddi cynllun gweithredu yn yr haf.

 

(Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol).

Goblygiad Ariannol

Dim.

Argymhelliad Chwech

 

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gall deddfwriaeth sydd ar ddod, fel Bil Cenedlaethau'r Dyfodol, y Bil Cynllunio a Bil Iechyd y Cyhoedd, gael ei defnyddio i ymdrin â gordewdra ymysg plant. Dylai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol adrodd yn ôl i'r Pwyllgor hwn ar ei gasgliadau cyn gynted â phosib.

 

Ymateb: Derbyn

 

  • Rydym ni’n cydnabod bod deddfwriaeth yn gallu chwarae rhan bwysig wrth ymdrin â gordewdra ymysg plant a phroblemau iechyd eraill. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd camau drwy ddeddfwriaeth fel y Bil Teithio Llesol i ffurfio amodau cymdeithasol sy’n galluogi pobl o bob oed i gael bywydau gweithredol iachus.

 

  • Bydd deddfwriaeth arall gan Lywodraeth Cymru’n gwneud cyfraniad sylweddol. Er enghraifft, bydd y Bil Cenedlaethau’r Dyfodol (teitl gwaith) sydd ar ddod yn chwarae rhan bwysig drwy osod iechyd da yn ganolog yn y Gymru rydym ni am ei chreu at y dyfodol.

 

  • Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bapur Gwyn ar Iechyd Cyhoeddus ar 2 Ebrill sy’n amlinellu cyfres o gynigion deddfwriaethol ar gyfer ymdrin â phryderon iechyd cyhoeddus penodol. Mae’r Papur Gwyn yn cynnwys cynnig i adeiladu ar waith blaenorol a wnaed mewn ysgolion ac ysbytai drwy ddatblygu safonau maeth mewn lleoliadau penodedig, megis lleoliadau cyn-ysgol. Disgwylir i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben ar 24 Mehefin.

 

  • Fodd bynnag, mae nifer o feysydd ar gyfer gweithredu deddfwriaethol posibl yn gyfyngedig i lefel y DU / UE, ac am y rheswm hwn mae Llywodraeth Cymru’n gweithio ochr yn ochr â’r Adrannau Iechyd eraill yn y DU i ddylanwadu ar y diwydiant bwyd a diod, boed drwy gydweithio gwirfoddol neu reoleiddio. Rhaid i unrhyw weithredu deddfwriaethol yng Nghymru fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

 

(Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol).

Goblygiad Ariannol

 

Dim.